RWE in Wales
RWE in Wales

RWE yng Nghymru

Mae gan RWE hanes hir yng Nghymru

RWE yw’r cynhyrchwyr ynni mwyaf yng Nghymru, a phrif gynhyrchydd ynni adnewyddadwy'r wlad. Ar hyn o bryd, rydym ynghlwm â chynhyrchu dros 3 GW o ynni yng Nghymru ar draws 12 safle, ac mae oddeutu 1 GW ohono yn ynni adnewyddadwy. Eisoes, mae ein portffolio ynni adnewyddadwy yn cynhyrchu traean o gynhyrchiant ynni adnewyddadwy Cymru – digon i bweru 550,000 o dai. Rydym yn cyflogi 300 o bobl yn uniongyrchol drwy Gymru mewn swyddfeydd pwrpasol ym Maglan, Dolgarrog a Phorthladd Mostyn, yn ogystal ag ar ein safleoedd yn ein gorsafoedd pŵer.

Dros y ddegawd ddiwethaf, mae RWE a’i bartneriaid wedi buddsoddi dros £3 biliwn i gyflawni prosiectau yng Nghymru. Mae ein buddsoddiadau mawr yn cynnwys Gorsaf Bŵer Penfro 2.2 GW, a Fferm Wynt ar y Môr, Gwynt y Môr, gwerth £2biliwn. Yn ystod adeiladu safle Gwynt y Môr, cynhyrchwyd 700 o swyddi, gyda chant o swyddi sgiliau uchel wedi cael eu creu yn yr hirdymor. Buddsoddwyd £250 miliwn arall ar brosiectau gwynt ar y tir yng Nghoedwig Gorllewin Brechfa, Coedwig Clocaenog a Mynydd y Gwair.

Mae RWE yn rhedeg chwech o orsafoedd ynni dŵr yng Ngogledd Cymru o’r ganolfan Gweithrediadau a Chynnal (GaCh) yn Nolgarrog, sy’n darparu 45 MW o ynni a chyfanswm capasiti storio ynni o 4,800 MWh.

Lleolir canolfan GaCh RWE o’r radd flaenaf ym Mhorthladd Mostyn, lle mae tîm o fwy na chant yn rhedeg fflyd gwynt ar y môr Cymru, gan gynnwys Gwynt y Môr (576 MW), Gwastadeddau’r Rhyl (90 MW) a North Hoyle (60 MW).

Caewyd ein gorsaf ynni glo ddiwethaf yn y DU, yn Aberddawan yng Nghymru, ym mis Mawrth 2020 ar ôl bron i 60 mlynedd o gynhyrchu.


Buddsoddi yng Nghymru yn y dyfodol – Awel y Môr

Bwriedir i Awel y Môr (estyniad i Wynt y Môr) fod y buddsoddiad ynni adnewyddadwy unigol mwyaf yng Nghymru yn ystod y ddegawd nesaf a bydd yn darparu digon o ynni ar gyfer 600,00 o gartrefi ychwanegol. Yn ogystal, rydym yn datblygu cyfres arall o brosiectau gwynt ar y môr arloesol ~150 MW drwy Gymru. Gyda’n cyfres gref o fuddsoddiadau, rydym yn gobeithio cadw ein safle fel un o’r buddsoddwyr mwyaf yng Nghymru, gan gyflogi a hyfforddi gweithlu medrus yn uniongyrchol ar draws amrywiaeth o dechnolegau, yn ogystal â llawer mwy yn anuniongyrchol ar draws eu cadwyni cyflenwi eu hunain.

RWE ym Mhenfro a’r Môr Celtaidd

Mae Canolfan Sero Net Penfro (CSNP) yn ganolfan datgarboneiddio, sy’n cysylltu’r technolegau arloesol sydd eu hangen ar gyfer dyfodol carbon isel yn Ne a Gorllewin Cymru. Bydd CSNP yn cydlynu’r cysylltiad o weithgareddau datblygu RWE yn Ardal y Môr Celtaidd, fel tri o golofnau amlwg: 1) Datgarboneiddio Gorsaf Ynni Penfro, gan gynnwys Dal a Storio Carbon (DSC) ac astudiaethau cychwynnol ynglŷn â dichonoldeb Hydrogen; 2) Cynhyrchu Hydrogen gwyrdd ar gyfer datblygu electroleiddiwr cychwynnol 100-300 MW ar safle Penfro, ond hefyd yn ystyried cyfleoedd ar raddfa-GW yn yr hirdymor; a 3) datblygiad Gwynt Arnofio ar y Môr yn y Môr Celtaidd.

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan CSNP yma a ffeithlun yma.

Pob lleoliad a ffigur gan RWE yng Nghymru

Pob lleoliad a ffigur gan RWE yng Nghymru

Cyllid Cymunedol RWE yng Nghymru

Yn y ddegawd olaf, mae ffermydd gwynt sy’n cael eu rhedeg gan RWE wedi cyfrannu dros £10 miliwn tuag at gymunedau Cymreig cyfagos drwy eu cronfeydd cymunedol. Mae cyfraniadau RWE i gymunedau yn parhau i dyfu o oddeutu £2.45 miliwn y flwyddyn. Dros y ddeng mlynedd nesaf, bydd RWE yn gwneud cyfraniad ychwanegol i gronfeydd cymunedol o dros £25 miliwn, o brosiectau sydd eisoes yn gweithredu yng Nghymru.

Buddsoddi mewn pobl

Mae canolfan brentisiaeth tyrbinau gwynt RWE y DU wedi’i lleoli yng Ngogledd Cymru, a hyd yma mae wedi hyfforddi dros 40 o brentisiaid er mwyn cefnogi dyfodol y diwydiant. Rydym mewn partneriaeth â Grŵp Llandrillo Menai er mwyn sefydlu rhaglen brentisiaeth tyrbinau sy’n ennill gwobrau.

Yn ogystal, mae RWE yn falch o fod yn eiriolwr ar gyfer clwstwr cadwyn gyflenwi newydd sbon ar draws rhanbarth Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr o’r enw Cynghrair Ynni ar y Môr, sy’n cysylltu yn uniongyrchol ag ymrwymiadau a wnaed fel rhan o’r Fargen Sector Gwynt ar y Môr. Mae’r clwstwr yn ‘chwifio’r faner’ ar gyfer busnesau lleol, gan godi ymwybyddiaeth am gyfleoedd sydd ar ddod mewn amrediad o sectorau ynni carbon isel mewn modd amserol, gyda’r nod o gynyddu cyfranogiad a chynnwys lleol.

Rhagor o Wybodaeth

Llawrlwythwch ffeithlun RWE yng Nghymru yma a thaflen RWE yng Nghymru yma.


Cronfeydd cymunedol

Community funds in Wales
Community funds in Wales

Mae RWE yn buddsoddi dros £2.4 miliwn yng Nghymru bob blwyddyn drwy Gyllid Cymunedol.

Funds in Wales

UK Communications

Prosiectau yng Nghymru

Anfon e-bost