Abertillery Onshore Wind Farm
Abertillery Onshore Wind Farm

Mewn datblygiad | Fferm Wynt

Abertyleri



Hanes y Prosiect

Mae RWE yn archwilio’r potensial o adeiladu fferm wynt i’r dwyrain o dref Abertyleri, ac i’r gorllewin o dref Abersychan. Mae'r safle wedi'i leoli yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Cymru.

Y cynnig yw fferm wynt chwe thyrbin gydag uchder blaen y llafn o hyd at 200m. Byddai’r trydan posibl a fyddai’n cael ei gynhyrchu’n cyfateb i anghenion 42,000* o gartrefi yn y DU – nifer tebyg i gyfanswm nifer yr aelwydydd yn Nhorfaen ei hun.

Ers lansio ei gynigion, mae RWE Renewables wedi gweithio’n agos gyda’r gymuned ac wedi ymgynghori’n helaeth. Roedd hyn yn cynnwys ymgynghoriad anffurfiol tair wythnos rhwng 28 Chwefror a 21 Mawrth. Rydym wedi cynnal asesiadau ac arolygon helaeth ar y safle, wedi cynnal trafodaethau gyda phartïon â diddordeb, wedi cynnal ymgynghoriad cyhoeddus anffurfiol ac wedi casglu llawer iawn o wybodaeth werthfawr.

Statws: Mewn datblygiad

 

*Amcangyfrifir y gallai’r cynhyrchiant blynyddol cyfartalog a ddisgwylir ar y safle fod yn gyfwerth ag anghenion domestig tua 42,000 o aelwydydd cyfartalog yn y DU. Mae’r ynni y rhagwelir y bydd y cynnig yn ei gynhyrchu yn deillio o ddefnyddio cyflymderau gwynt a fonitrwyd yn yr ardal leol ac sy’n cyfateb i ddata tywydd hanesyddol tymor hwy gan ddefnyddio modelau meteorolegol wedi’u hadu â data a gafwyd o systemau mesur lloeren, arwyneb ac yn yr awyr. Mae’r cyfrifiadau yn seiliedig ar gapasiti gosodedig o 36 MW. Cyfrifiad yn seiliedig ar yr hyn a gynhyrchwyd yn 2021, a chan dybio defnydd cyfartalog (cymedrig) blynyddol aelwydydd o 3,509 kWh, yn seiliedig ar ystadegau diweddaraf gan yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net (Ystadegau Is-genedlaethol Defnydd Trydan a Nwy Awdurdod Rhanbarthol a Lleol, Prydain Fawr, 2021, defnydd domestig cymedrig o drydan (kWh y metr) yn ôl gwlad/rhanbarth, Prydain Fawr, 2021) 

Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio

Gwnaethom gynnal yr Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio ffurfiol statudol ar ein cynlluniau ar gyfer Fferm Wynt Abertyleri rhwng 19 Hydref a 4 Rhagfyr 2023.

Mae’r holl ddogfennau cynllunio y gwnaethom ymgynghori arnynt

yma

Ffeithiau & Ffigurau

tua 00 MW

capasiti gosodedig

Hyd at 00

tyrbin gwynt

00 m

Uchder macsimwm hyd at flaen y llafn

Arddangosfa Rithwir

Ewch i’n harddangosfa rithwir i weld gwybodaeth am y prosiect, gwylio fideo rheolwr y prosiect, a gweld mapiau a ffotogyfosodiadau. 


Arddangosfeydd Cyhoeddus

Gwnaethom gynnal tair arddangosfa galw heibio cyhoeddus drwy gydol y cyfnod ymgynghori ble gallai preswylwyr weld y dogfennau cynllunio, siarad â’r tîm a rhoi adborth:

Roedd y Crynodeb Annhechnegol drafft o'r Datganiad Amgylcheddol drafft hefyd ar gael i'w weld yn Llyfrgell Abertyleri, Llyfrgell Blaenafon a Llyfrgell Pont-y-pŵl.

Gellir cysylltu â thîm y prosiect gyda chwestiynau ac adborth trwy e-bostio abertillery@rwe.com a ffonio 01495 360850.

*Mae'r llun ar ben y dudalen yn esiampl o Fferm Wynt Mynydd y Gwair*

Fferm Wynt ar dir Abertyleri

Gallwch gysylltu â ni dros y ffôn neu e-bost.

Mae ein tîm prosiect yn edrych ymlaen at eich ymholiadau a chwestiynau.