RWE Image
STA02-alwen-forest

Wrthi’n cael eu Datblygu | Fferm Wynt ar y Tir

Fferm Wynt a Chysylltiad Grid Coedwig Alwen

Hanes y Prosiect

Bu RWE yn llwyddiannus yn nhendr Alwen yn 2017 – ymarfer a gynhaliwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru ar gyfer opsiwn i ddatblygu prosiect ynni adnewyddadwy yng Nghoedwig Alwen yng ngogledd Cymru.

Mae RWE yn gweithio gydag Ynni Cymunedol Cymru i ddatblygu cynllun rhanberchnogaeth ar gyfer y prosiect hwn sydd wedi’i leoli yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir Ddinbych, gerllaw Llyn Brenig a Chronfa Ddŵr Alwen, o fewn coedwigaeth weithredol a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar dir sy’n eiddo i Dŵr Cymru.

Mae’r cynnig ar gyfer fferm wynt hyd at naw tyrbin gydag uchafswm uchder blaen y llafn o 200m, cysylltiad grid a system storio ynni batris. Yn dibynnu ar y tyrbin terfynol a ddewisir, byddai’r trydan posibl a gynhyrchir yn cyfateb i anghenion hyd at 63,500** o gartrefi yn y DU.

Ers lansio ei gynigion, mae RWE wedi gweithio’n agos gyda’r gymuned ac wedi ymgynghori’n helaeth. Roedd hyn yn cynnwys ymgynghoriad anffurfiol ym mis Ionawr 2020. Rydym hefyd wedi cynnal asesiadau ac arolygon helaeth ar y safle, wedi cynnal trafodaethau â phartïon â diddordeb, wedi cynnal ymgynghoriad cyhoeddus anffurfiol ac wedi casglu llawer iawn o wybodaeth werthfawr.

Statws: Yn cael ei ddatblygu

Ffeithiau a ffigurau

Hyd at 00 MW

O gapasiti gosodedig

Hyd at 00

tyrbin gwynt

00 m

Uchder mwyaf hyd at flaen y llafnau

Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio

Rydym yn cynnal yr Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio ffurfiol statudol ar ein cynlluniau ar gyfer Fferm Wynt a Chysylltiad Grid Coedwig Alwen rhwng 13 Rhagfyr 2023 a 7 Chwefror 2024.

Yn ystod yr ymgynghoriad, gwnaethom gynnal dwy arddangosfa galw heibio lle roedd y cyhoedd yn gallu gweld y dogfennau cynllunio, siarad â'r tîm a rhoi adborth.

Mae'r tîm yn adolygu'r holl adborth a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad a bydd yn cyflwyno'r cais cynllunio yn y misoedd nesaf.

Er bod yr ymgynghoriad wedi cau, mae pob un o'r dogfennau cynllunio y buom yn ymgynghori arnynt yn dal ar gael i'w gweld

Yma

Arddangosfa Rithwir

Ewch i’n harddangosfa rithwir i weld gwybodaeth am y prosiect, gwylio fideo rheolwr y prosiect, a gweld mapiau a ffotogyfosodiadau.


Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd mewn

Fferm Wynt Abertyleri

Mae RWE yn archwilio’r potensial o adeiladu fferm wynt i’r dwyrain o dref Abertyleri, ac i’r gorllewin o dref Abersychan.

Darllen mwy

Enoch Hill Onshore Wind Farm

Enoch Hill will be capable of producing up to 72MW.

Read more

RWE yng Nghymru

Mae RWE yn gweithredu dros 3GW o ynni o dir a gwynt ar y tir, gwynt ar y môr a nwy.

Darllen mwy

* The picture on top is an example of Bowbeat Onshore Wind Farm

** Mae'r ynni y rhagwelir y bydd y cynnig yn ei gynhyrchu’n deillio o ddefnyddio cyflymderau gwynt a fonitrwyd yn yr ardal leol ac sy'n cyfateb i ddata tywydd hanesyddol tymor hwy gan ddefnyddio modelau meteorolegol wedi'u hadu â data a gafwyd o systemau mesur lloeren, seiliedig ar wyneb ac yn yr awyr. Mae'r cyfrifiadau’n seiliedig ar gapasiti gosodedig o 60 MW. Mae’r ffigur cartrefi cyfatebol a gyflenwir yn seiliedig ar ddefnydd trydan domestig cymedrig blynyddol o 3,472 kWh fesul cartref yng Nghymru o ystadegau diweddaraf yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (Defnydd Is-genedlaethol Trydan, Prydain Fawr, 2005-2021, trydan domestig cymedrig blynyddol). Defnydd (kWh fesul cartref) ar gyfer Cymru, 2021 (https://bit.ly/3QRaYHv) Ystadegau defnydd trydan rhanbarthol ac awdurdodau lleol (www.gov.uk) Ffigurau wedi'u talgrynnu.

Josh Morris

Rheolwr Cyfathrebu a Rhanddeiliaid

Prosiectau Cymraeg

Fferm Wynt Coedwig Alwen

Tîm prosiect